Présentation de l'éditeur :
Sut mae merch ifanc mewn dinas llawn dynion fod i gwrdd â chariad heb sôn am y dyn delfrydol? Mae'n broblem. Newydd adael coleg mae Mari ac mae hi'n sicr bod yna rhywun ar ei chyfer - Mr Perffaith. Maen nhw'n dweud bod brân i bob brân ac mae Mari ar y lwc-owt am ei brân hi ond mae'n syndod faint o freaks sy mas 'na. Cymaint o ddynion, cyn lleied o amser . . . Dyw bywyd ddim yn haws i ddynion chwaith, mae Owen hefyd yn chwilio am gariad ar ei delerau e.
Biographie de l'auteur :
Dyma drydedd nofel Joanna Davies a i phedwerydd llyfr. Un o Gorslas, Cwm Gwendraeth yw Joanna'n wreiddiol ond mae'n ferch y ddinas bellach. Mae Joanna'n dwli darllen bywgraffiadau sêr oes aur Hollywood, gwylio rhaglenni teledu cwbl sili a choginio. Mae'n dal i chwarae'r acordion o bryd i'w gilydd jyst i roi sioc i ddieithriaid.
Les informations fournies dans la section « A propos du livre » peuvent faire référence à une autre édition de ce titre.
- ÉditeurGomer Press
- Date d'édition2011
- ISBN 10 1848513526
- ISBN 13 9781848513525
- ReliureBroché
- Nombre de pages232
-
Evaluation vendeur