Présentation de l'éditeur :
Fe gwrddon ni â Cerys, Hywel, Meleri a Lois am y tro cyntaf yn y gyfrol Ffreshars. Ond beth, tybed, yw hanes y ffrindiau coleg ar ôl symud i fyw yn y byd go iawn? Ers iddyn nhw adael y coleg mae r pedwar wedi dilyn llwybrau tra gwahanol ac yn benderfynol o beidio â gwneud yr un hen gamgymeriadau eto... Ond weithiau mae gan ffawd ei syniadau ei hun. Dyma nofel sionc a beiddgar am gyfeillgarwch, cariad a cholled. Er ei bod yn ddilyniant i gyfrol gyntaf yr awdur, mae hefyd yn stori gyflawn ynddi ei hun un hynod ddarllenadwy ac apelgar.
Revue de presse :
Ma Ffreshars yn dechrau fel dyddiadur tri ffrind yn mynd i r coleg ond yn cyrraedd lle annisgwyl o dywyll cyn y diwedd. Bechgyn drwg a merched gwaeth... tydi coleg yn hunllef! --Llwyd Owen
Reiat o nofel yn llawn asbri dyddiau coleg ond nid i r gwangalon! --Caryl Lewis
Les informations fournies dans la section « A propos du livre » peuvent faire référence à une autre édition de ce titre.
- ÉditeurGomer Press
- Date d'édition2014
- ISBN 10 1848517149
- ISBN 13 9781848517141
- ReliureBroché
- Nombre de pages198