Articles liés à Ar Y Ffin: Hunangofiant Deallusol

Ar Y Ffin: Hunangofiant Deallusol - Couverture souple

Tillich, Paul; Heywood Thomas, John; Parry, R M

 
9780993549939: Ar Y Ffin: Hunangofiant Deallusol

Synopsis

Roedd Paul Tillich (1886–1965) yn un o ddiwinyddion mwyaf dylanwadol yr 20fed ganrif. Roedd yn un o’r cyntaf i feirniadu Hitler. Fe’i gorfodwyd i adael ei swydd yn y brifysgol gan y Llywodraeth Natsïaidd yn 1933, ac ymfudodd i America ble daeth yn ffigur diwylliannol cyhoeddus, gan ymddangos ar glawr cylchgrawn Time yn 1959. Gwaith Tillich oedd testun doethuriaeth Martin Luther King. Er gwaethaf dylanwad rhyngwladol Tillich, ychydig o ymwybyddiaeth sydd o’i waith ym Mhrydain. Cyfieithwyd y cyhoeddiad hwn o hunangofiant deallusol Tillich, Ar y Ffin, gan gydweithiwr i Tillich, yr athronydd John Heywood Thomas. Dyma’r cyntaf o weithiau Tillichi ymddangos yn y Gymraeg.

Les informations fournies dans la section « Synopsis » peuvent faire référence à une autre édition de ce titre.

À propos de l'auteur

Addysgwr i John Heywood Thomas, Paul Tillich, oedd y diwinydd cyntaf i mi geisio'i ddirnad go iawn. Fe'm rhyfeddwyd gan ymdriniaeth ddofn Tillich â rhai o gwestiynau ysbrydol mwyaf yr ugeinfed ganrif, ac roedd yn ddryswch i mi nad oedd ymwybyddiaeth gyhoeddus o gwbl ym Mhrydain o'r meddwl mawr hwn. Mewn anerchiad ym Mhrifysgol Rhydychen yn 2014 siaradais am Coleridge a Tillich ac yn fuan wedyn dechreuais i a John Heywood Thomas siarad am brosiect i gyfieithu Tillich i Gymru. Dywedai Tillich yn aml wrth y rhai a oedd yn ceisio deall ei ymagwedd, "darllenwch fy mhregethau yn gyntaf", felly fy syniad cychwynnol oedd gwahodd diwinyddion ac athronwyr i gyfieithu pregethau unigol gan Tillich, gan ychwanegu myfyrdod byr ynghylch perthnasedd y deunydd i'r cyd-destun Cymreig presennol. John fyddai'n golygu'r casgliad. Rwy'n gobeithio y gallwn wneud hynny o hyd, ond awgrymodd John ar unwaith y dylem ddechrau gydag Ar y Ffin. Y cyhoeddiad hwn yw ffrwyth y cydweithio hwnnw.

Les informations fournies dans la section « A propos du livre » peuvent faire référence à une autre édition de ce titre.