Articles liés à O na fyddai'n Haf o hyd!

O na fyddai'n Haf o hyd! - Couverture souple

Thomas, Haf

 
9781845278069: O na fyddai'n Haf o hyd!

Synopsis

Mae Haf Thomas o Lanrug yn dipyn o gymeriad!

Mae wedi bod yn ecstra ar Pobol y Cwm, mae wedi cyfarfod ag enwogion o Hywel Gwynfryn i Westlife – ac mae wedi codi trigain mil o bunnoedd i elusennau gwahanol! Mae’n ferch sy’n gwrthod gadael i anawsterau bywyd ei threchu.

Pan anwyd Haf yn 1971 roedd yn dipyn o sioc i'w rhieni Ann ac Irfon pan ddeallon nhw fod syndrôm Downs arni. Ers hynny, yr unig sioc yw ei dawn barhaus i gael y gorau o'r bobol o'i chwmpas. Mae ei theulu a'i chymuned wedi bod yn gefn iddi - ond mae hithau yn ei thro wedi gwneud mwy na'r rhan fwyaf ohonom i dalu'r gymwynas yn ôl.

Yn y gyfrol hon, mae'n adrodd ei stori ei hun - ac mae'n stori gwerth ei rhannu.

Les informations fournies dans la section « Synopsis » peuvent faire référence à une autre édition de ce titre.

À propos de l'auteur

Pan anwyd Haf yn 1971 roedd yn dipyn o sioc i'w rhieni Ann ac Irfon pan ddeallon nhw fod syndrôm Downs arni. Ers hynny, yr unig sioc a fu, yw ei dawn barhaus i gael y gorau o'r bobol o'i chwmpas. Mae ei theulu a'i chymuned wedi bod yn gefn iddi - ond mae hithau yn ei thro wedi gwneud mwy na'r rhan fwyaf ohonom i dalu'r gymwynas yn ôl. Mae wedi nofio i godi pres i Ysgol Pendalar, hel stampiau at Gymdeithas y Deillion, gwerthu cardiau cyfarch mae'n gwneud ei hun, a threfnu cyngherddau Nadolig hefo'i chydweithwyr yng Nghyngor Sir Gwynedd. Mae wedi codi pres i dros dri deg o wahanol elusennau.

Yn y gyfrol hon, mae'n adrodd ei stori ei hun - ac mae'n stori gwerth ei rhannu.

Les informations fournies dans la section « A propos du livre » peuvent faire référence à une autre édition de ce titre.