Articles liés à Y Ferch ar y Traeth

Y Ferch ar y Traeth - Couverture souple

Gerallt, Catrin

 
9781845279967: Y Ferch ar y Traeth

Synopsis

Dynes ganol oed yw Bethan Morgan sy’n mynd drwy gyfnod cythryblus yn y cartref ac yn y gwaith. Mae hi’n ohebydd ar raglen deledu materion cyfoes, ac mae Selwyn, ei bos seimllyd, nawddoglyd yn dipyn o boen.

Mae Y Ferch ar y Traeth wedi’i lleoli yng ngwyliau haf 2023, pan fo’r newyddiadurwraig, Bethan Morgan, ar ei ffordd i bentre hudolus Traeth Llyfn yn sir Benfro i weld ei mam ac i chwilio am straeon ar gyfer cyfres nesa’r Byd a’r Betws. Yn anffodus, mae gan ei bòs, Selwyn, drefniadau gwahanol ar ei chyfer ac mae’n ei galw yn ôl i’r swyddfa. Ond mae digon o ddeunydd i gadw Bethan yn brysur yn y Gorllewin – baetwyr moch daear, hwyl y Llew Coch a thai haf, hen sôn am Llion, rebel ifanc hanner ei hoed, sy’n llenwi’r bwlch a adawyd gan ei gŵr anffyddlon.

Ond a oes dirgelwch a thywyllwch yn taflu cysgodion dros ei chymar newydd?

Nofel ddirgelwch, yn cynnwys elfennau o ramant, hiwmor a chymhlethdodau teuluol. Cafodd y gyntaf yn y gyfres - Y Ferch ar y Cei - dderbyniad da iawn ac mewn blwyddyn pan ataliwyd y wobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol (Llyfr y Mis, Awst 2024). Cyhoeddodd sawl adolygydd mai Y Ferch ar y Cei oedd y 'Daniel Owen' y flwyddyn honno.

A mystery novel, featuring elements of romance, humour and family complexities.

Les informations fournies dans la section « Synopsis » peuvent faire référence à une autre édition de ce titre.

À propos de l'auteur

Dyma ail nofel y newyddiadurwraig Catrin Gerallt. Cafodd ei geni yn Benfro a chafodd ei magu yng Nghaerdydd, lle mae’n byw hyd heddiw. Wedi astudio Ffrangeg yn y brifysgol, cafodd waith fel gohebydd yn BBC Cymru. Treuliodd ugain mlynedd fel Golygydd Cynorthwyol Materion Cyfoes, gan ennill gwobrau BT a BAFTA Cymru am ei rhaglenni ymchwiliadol. Mae hi’n ysgrifennu yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan gyfrannu straeon i raglenni Radio Cymru a Radio 4.

Yn 2019, cafodd ei haddasiad Saesneg o nofel T Llew Jones, Trysor y Môr-Ladron, enwebiad ar gyfer medal CILIP Carnegie. Yn fwy diweddar, cyfrannodd straeon byrion i’r gyfrol Gymraeg Clymau ac i’r casgliad Painting the Beauty Queens Orange, (Honno) llyfr y mis gan Waterstones yng Nghymru (2021)

Mae Catrin yn ymddangos yn gyson ar radio a theledu fel colofnydd a sylwebydd ar y newyddion. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Y Ferch ar y Cei, Gorffennaf 2024.

Les informations fournies dans la section « A propos du livre » peuvent faire référence à une autre édition de ce titre.